Hybu cyflogaeth i bobl ag anabledd dysgu

Cefndir y Prosiect

Nid yw cyflogaeth â thâl bob amser yn cael ei hystyried yn ddewis amgen realistig yn lle cyfleoedd dydd i bobl ag anabledd dysgu a’u teuluoedd. Fe wnaeth y prosiect Hwylusydd IMPACT hwn mewn cydweithrediad â Gogledd Cymru Gyda’n Gilydd geisio safbwyntiau nas clywir yn aml gan bobl ag anabledd dysgu a’u teuluoedd i ddeall cyfleoedd a rhwystrau i gyflogaeth. Roedd hyn yn cynnwys deall llwybrau i gyflogaeth, beth sy’n cefnogi neu’n herio, profiadau yn y gwaith, a chyd-gynhyrchu gwersi i’w rhannu ag eraill sydd ag anabledd dysgu sy’n awyddus i fynd ar drywydd cyflogaeth â thâl.

Ffeil Ffeithiau IMPACT

Ymgysylltiad a chanfyddiadau

Beth ddywedodd yr adolygiad tystiolaeth wrthym?

Mae cyflogaeth yn cynnig cynhwysiant cymdeithasol, lles meddyliol gwell, a boddhad bywyd i bobl ag anableddau dysgu. Fodd bynnag, mae llawer o unigolion yn wynebu rhwystrau gan gynnwys: gwahaniaethu a stigma, addasiadau gwael yn y gweithle ac ofn colli budd-daliadau anabledd. Bwlch allweddol a nodwyd yn y sylfaen dystiolaeth oedd profiad bywyd teuluoedd yng nghyd-destun polisi Cymru sy’n esblygu a chyflwyno’r Strategaeth Cyflogaeth â Chymorth yng Ngogledd Cymru. Nod y prosiect IMPACT hwn oedd ymateb yn uniongyrchol i’r bwlch hwnnw.

Beth ddysgon ni?

Camau gweithredu’r prosiect

  • Cyflwynir canfyddiadau o amgylch y themâu canlynol: 1) pobl a chydberthynasau, 2) balchder a boddhad personol, 3) rhwystrau ymarferol i gyflogaeth, 4) rôl y teulu, 5) camdybiaethau a stereoteipiau.
  • Pobl a chydberthynasau – Roedd teulu yn chwarae rôl allweddol fel eiriolwyr, ymchwilwyr a chlustog emosiynol.
  • Balchder a boddhad personol – roedd cael trefn arferol a rhywbeth i edrych ymlaen ato yn gwneud bywyd yn well.
  • Rhwystrau ymarferol i gyflogaeth – Hyd yn oed pan roedd cymhelliant yn uchel, roedd yr amgylchedd allanol yn aml yn gwneud i gyflogaeth deimlo’n bell neu’n anymarferol. Roedd yr heriau’n cynnwys: trafnidiaeth, contractau ansicr, diffyg llwybr i ddatblygiad gyrfa a gofyniad i reoli arian.
  • Rôl y teulu – Mae teuluoedd eisiau i gyflogaeth deimlo’n realistig, yn ddiogel ac yn ystyrlon. Mae angen sicrwydd arnyn nhw y bydd y gefnogaeth yn aros yn ei lle. Roedd y rhai a oedd yn teimlo’n fwy gwybodus neu’n gweld straeon llwyddiant yn fwy tebygol o gefnogi aelod o’r teulu i gymryd camau tuag at gyflogaeth.
  • Camdybiaethau a stereoteipiau – roedd hyn yn cynnwys rhai gan weithwyr proffesiynol a theuluoedd yn ogystal â chyflogwyr.

Adnoddau

Rydym wedi datblygu 4 adnodd:

Asiantaeth Letyol: Gogledd Cymru Gyda’n Gilydd

Partneriaeth yw Gogledd Cymru Gyda’n Gilydd, rhwng y chwe awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Ehedwyr Gogledd Cymru a’r gymuned anableddau dysgu ehangach yng Ngogledd Cymru. Diolch i Wasanaethau Cymdeithasol Cynghorau Sir Ynys Môn a Gwynedd am arwain ar y prosiect hwn ar ran Partneriaeth Gogledd Cymru Gyda’n Gilydd

Pam oeddech chi eisiau cymryd rhan gydag IMPACT?

Rydym wrth ein bodd yn gweithio gydag Impact ar y prosiect hwn oherwydd y ffocws ar gyd-gynhyrchu. Pwyslais yr Hwylusydd ar brosiectau newid o’r gwaelod i fyny mewn gwasanaethau lleol yw’r union arbenigedd sydd ei angen ar ein prosiect, ac mae’n cyd-fynd â’r gwerth y mae’r rhaglen yn ei roi ar gyd-ddylunio atebion gyda’r gymuned anabledd dysgu. Hefyd, mae’r cyfle i weithio gydag IMPACT yn rhoi adnoddau ac arbenigedd ychwanegol inni i symud y prosiect hwn ymlaen.

Beth yw eich gobeithion ar gyfer canlyniadau’r prosiect hwn?

Ein dyheadau a’n gobeithion ar gyfer y prosiect yw y bydd cynnydd tuag at gyflogaeth â thâl, a chefnogaeth i gyflawni hynny, yn edefyn aur sy’n rhedeg drwy ein gwaith yn y maes hwn – agwedd allweddol ar hyn fydd y broses o gyd-gynhyrchu gydag unigolion a theuluoedd, gan godi eu dyheadau a’u disgwyliadau yn y broses fel eu bod hwythau’n “mynnu” mwy gan y gwasanaethau hyn ac yn cael gwell dealltwriaeth o’r amrywiaeth o fanteision lles a all ddeillio o fod mewn cyflogaeth agored â thâl, sy’n cydweddu’n dda. Felly, newid diwylliant ac agweddau sydd wrth wraidd ein prosiect, a dyna lle bydd set sgiliau ac arbenigedd yr Hwylusydd yn ychwanegu gwerth.

Pam ydych chi’n meddwl bod canolfan fel IMPACT yn bwysig?

Yn ei hanfod, mae Gogledd Cymru Gyda’n Gilydd yn rhaglen sydd â’r nod o wella bywydau pobl ag anableddau dysgu yn seiliedig ar yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw yn eu bywydau. Teimlwn fod arwyddair IMPACT ei hun “mae cefnogaeth dda yn ymwneud â mwy na ‘gwasanaethau’ – mae’n ymwneud â chael bywyd.” a’r egwyddorion y mae’n gweithredu arnynt yn cyd-fynd yn dda â’r gwerthoedd sy’n sbarduno’r rhaglen gan gynnwys y ffocws ar gyd-gynhyrchu a phwysigrwydd cael tystiolaeth o amrywiaeth o ffynonellau i adeiladu’r achos dros newid.

Mae cael mynediad at adnoddau fel yr Hwylusydd, i alluogi prosiectau o’r fath i gael eu cynnal ochr yn ochr â chyflawniad gweithredol, yn ychwanegu gwerth clir at y gwasanaethau hyn. Yr agwedd arall ar y ganolfan rydym yn teimlo sy’n hanfodol bwysig yw cael llwyfan i rannu’r dysgu o’r prosiectau yn lleol, yn rhanbarthol, yn genedlaethol ac ar draws y Deyrnas Unedig.

Cwrdd â’n Hwylusydd: Soracha Cashman

Soracha Cashman

Niwroseicolegydd gwybyddol ydw i drwy hyfforddiant ac mae gen i gefndir mewn ymgynghori yn y sector gwirfoddol a’r sector gofal preifat. Rwy’n byw yn Eryri yng Ngogledd Cymru. Gwyddeles ydw i, ac rydw i’n byw yng Nghymru ers tua 25 mlynedd. Fe dreuliais y 12 mis diwethaf yn gweithio gydag IMPACT yng Ngwynedd, gan gyflwyno Prosiect Arddangos a oedd yn canolbwyntio ar ‘gefnogi ymgorffori model newydd o Ofal Cartref’ ar draws y sir.
Pam oeddech chi eisiau bod yn rhan o IMPACT?

Mae fy mhrofiad o ymgynghori yn y sector gwirfoddol a’r sector gofal preifat wedi dangos i mi faint o angen sydd allan yna, nad yw’n cael ei ymdrin ag ef. Rwy’n eiriolwr cryf dros weithredu cymdeithasol cymunedol, cydweithio cymunedol a datblygu cymunedol, ac rwy’n credu bod IMPACT yn fenter llawn ysbrydoliaeth.

Ar ôl blwyddyn yn gweithio gydag IMPACT yn cynnal Prosiect Arddangos yng Ngogledd Cymru, gallaf weld y potensial ar gyfer cymhwyso tystiolaeth i ymarfer. Rwyf wedi ymrwymo i gael sgyrsiau agored sy’n onest yn emosiynol gyda chymunedau am yr hyn y mae ei angen arnynt, a chyda darparwyr am y ffordd orau y gallwn lunio gofal cymdeithasol y dyfodol i ddiwallu’r anghenion hynny.

Beth yw eich dyheadau a’ch gobeithion ar gyfer y prosiect?

Gobeithiwn y bydd y prosiect yn rhoi rhywfaint o fewnwelediad i ni i sut y gall ymyriadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth wella annibyniaeth pobl ag anabledd dysgu, gan eu grymuso a chreu marchnad gyflogaeth fwy cynhwysol.

Gobeithiwn y bydd modd i awdurdodau lleol eraill rannu a gweithredu/addasu’r hyn a ddysgwyd o’r prosiect hwn, gan wella canlyniadau i bobl ag anableddau dysgu a’u gofalwyr ar raddfa fwy yn y pen draw.