Gwreiddio Ailwampio Gofal Cartref Gwynedd

Project Background

Cynhaliwyd prosiect Arddangos IMPACT Gwynedd fel methodoleg i gefnogi darparwyr gofal cartref i fabwysiadu a gwreiddio model newydd o ofal cartref sy’n canolbwyntio ar y person. Roedd y gwaith yn canolbwyntio ar wella gwasanaeth drwy feithrin gweithio cydweithredol ar draws darparwyr a gweithwyr gofal proffesiynol; a gwella profiad y gweithlu drwy ymgysylltu sy’n canolbwyntio ar weithredu a deialog ystyrlon.

Nod y prosiect Arddangos deuddeng mis hwn oedd helpu rhanddeiliaid proffesiynol i ddeall beth mae’n ei gymryd i symud o newid trawsnewidiol i newid gwirioneddol ar lawr gwlad. Bu amrywiaeth o weithdai creadigol, diddorol ac effeithiol yn archwilio meysydd allweddol o heriau a chyfleoedd ar gyfer gwella (ar lefel unigol ac ar y cyd). Helpodd adborth a syniadau gan weithwyr rheng flaen, ynghyd â dirnadaethau gan reolwyr ac arweinwyr, i roi iteriad o theori newid a datblygu allbynnau’r prosiect. Mae allbynnau parhaus o’r prosiect hwn yn cynnwys newidiadau gweithredol ynghyd â fforwm arweinyddiaeth holl ddarparwyr dan hunan-arweiniad arloesol, a rhaglen sir gyfan o Gymunedau Ymarfer yn arbennig ar gyfer y rhai ar lefel goruchwyliwr gofal o fewn gofal cartref.

The Change Process

  • Need for Change
  • Change Readiness
  • Mobilisation
  • Review & Adaptation
  • Adoption
  • Embedding

Change Readiness

Canfuwyd mai Parodrwydd am Newid yw’r elfen bwysicaf o unrhyw broses newid. Wrth asesu Parodrwydd am Newid, edrychwn ar y chwe elfen y mae arnom angen iddynt fod ar waith ac yn gweithio’n dda er mwyn i newid ddechrau a gorffen yn llwyddiannus.

Arweinyddiaeth

mae Gwasanaeth Cefnogi Iechyd a Llesiant Cyngor Gwynedd yn cynnwys tîm o reolwyr prosiect/newid. Caiff y tîm hwn ei arwain gan uwch arweinydd gyda gweledigaeth a oedd wedi datblygu naratif y newid o fod yn set o gynlluniau peilot yr holl ffordd i roi’r model newydd ar waith. Roedd y tîm hwn yn anelu at ddarparu llywodraethu, atebolrwydd ac arweinyddiaeth newid strategol, fodd bynnag, nid oedd ganddo drosolwg lawn unwaith y rhoddwyd y newidiadau ar waith. Felly, roedd eglurder arweinyddiaeth gadarn o fewn y tîm trawsnewid, ond roedd yna her o ran trosi hyn i ddarpariaeth weithredol. Helpodd ein prosiect i dynnu ynghyd arweinwyr o wahanol lefelau o fewn y system, yn strategol gyda’r uwch arweinyddiaeth yn y lle cyntaf, ac yna’n weithredol gydag amrywiaeth o dimau a haenau arweinyddiaeth ar draws y ddarpariaeth gofal cartref. Caniataodd hyn inni eu cefnogi i ganfod y rhwystrau i newid a manteisio ar arfer da a’i rannu pan fo’n digwydd. Erbyn diwedd y prosiect IMPACT, roedd Gwasanaethau Cymdeithasol Gwynedd (Adran Oedolion, Iechyd a Lles) wedi ail-fframio ac ail-ddylunio eu Bwrdd Prosiect er mwyn cael gwell trosolwg arweiniol ac effaith fwy uniongyrchol ar agweddau ar ddarpariaeth weithredol o’r broses newid.

Ymgysylltu

yn 2017, dechreuodd Cyngor Gwynedd y broses o ddarlunio a phrofi model newydd o ofal cartref gan ddefnyddio’r Dull Vanguard, gyda’r bwriad o gwrdd â nod strategaeth Llywodraeth Cymru – Cymru Iachach: cynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol. Hanfod hyn oedd dod â ffocws cliriach i ddeilliannau gofynnol/dymunol yr unigolyn drwy roi mwy o hyblygrwydd i’r timau rheng flaen a mwy o gyfle i ddarparu yn ôl anghenion unigol, ac i integreiddio dull sy’n fwy seiliedig ar asedau o ran sut gall cymunedau a gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol gefnogi pobl yn eu cartrefi. Rhwng 2017 a 2020, profwyd pedair ardal beilot i asesu manteision gweithio ar sail ardal ddiffiniedig, gwaith sifft a thaliadau bloc, aelodaeth Tîm Adnoddau Cymunedol i ddarparwyr gofal ac ymadael â’r model darpariaeth amser-a-thasg traddodiadol.

Roedd y cynlluniau peilot cychwynnol yn amlwg wedi bachu diddordeb y staff a’r bobl sy’n derbyn gofal a chymorth gartref fel ei gilydd. Dyfynnwyd Astudiaethau Achos yn mynegi eu profiadau yn yr adroddiad gwerthuso ac fe’u defnyddiwyd yng nghamau cynnar casglu gwybodaeth ar gyfer y prosiect Arddangos. Prin, os unrhyw, ymgysylltu a gafwyd ar ôl tendro, naill ai gyda staff rheng flaen neu bobl a chanddynt brofiad bywyd, ac roedd hyn yn ymestyn at fynediad at y prosiect Arddangos.

Roedd staff cymunedol yn ymwybodol o’r newidiadau ac wedi’u contractio i ddarparu’r model newydd, ond gan mwyaf, roedd timau dan bwysau sylweddol ac yn ei chael yn anodd newid i’r ffyrdd newydd o weithio. Roedd Rheolwyr Gweithredol wedi gweithredu ar newidiadau i daliadau, yn ogystal â chontractau cyflogaeth ar sail sifftiau, felly roedd y manteision arfaethedig i staff rheng flaen wedi cael eu gwireddu. Fodd bynnag, nid oedd systemau a phrosesau wedi newid yn unol â chynlluniau, nid oedd y gwaith ymgysylltu yn seiliedig ar asedau gydag adnoddau ac asedau cymunedol wedi’u gwireddu yn y rhan fwyaf o ardaloedd, ac roedd agweddau ar ffocws ar ddeilliannau o ddarparu sy’n canolbwyntio ar y person yn dal i fod yn sownd ar batrwm amser-a-thasg gan mwyaf. Cafodd y comisiynwyr, menter ar y cyd rhwng Cyngor Gwynedd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, eu cynnull gan y tîm trawsnewid o fewn Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant y cyngor (y Gwasanaethau Cymdeithasol gynt). Er bod y tîm hwn wedi ymgysylltu’n llawn â’r prosiect Arddangos drwy gydol misoedd cynnar y prosiect, roedd mynediad llai cyson at uwch arweinwyr eraill mewn sefydliadau rhanddeiliaid oherwydd pwysau gwaith beunyddiol. I hybu ymgysylltu, hwylusodd hyfforddwr y prosiect Arddangos ddigwyddiad Adolygiad Strategol ar bwynt mewn amser 12 mis ar ôl dechrau’r contractau darpariaeth gofal cartref newydd. Roedd presenoldeb ac ymgysylltu’n uchel, a dangosodd y digwyddiad lwyddiannau hyd yma, hwyluswyd sgyrsiau gonest am y sefyllfa weithredol, a helpwyd i nodi’r ffyrdd gorau y gallai’r prosiect Arddangos gefnogi rhanddeiliaid proffesiynol yn y saith mis nesaf.

Dull

unwaith y rhoddwyd y prosiect Arddangos ar waith, buan y daeth yn amlwg na chafwyd arweiniad clir ar gyfer paratoi ar gyfer y prosiect Arddangos ar lawr gwlad. Roedd y bwlch rhwng datganiad o ddiddordeb cyntaf IMPACT a dechrau’r prosiect Arddangos (ychydig llai na blwyddyn), yn golygu nad oedd y sefyllfa fyw yn alinio â disgwyliadau. Cydnabu hyfforddwr prosiect Arddangos IMPACT bod oedi mewn uwchraddio system a phroses, ynghyd â’r atebolrwydd gwasgaredig, yn golygu nad oedd y broses newid wedi cyrraedd y cam o fabwysiadu a gwreiddio (fel disgwyliwyd i ddechrau pan gyflwynwyd y datganiad o ddiddordeb), ond roedd yn dal i fod yn y cam adolygu ac addasu. Galluogodd hyn i’r ffocws droi at gefnogi staff i ymgysylltu’n well â’r broses newid a meithrin gweithio cydweithredol. Gwnaeth hynny, yn ei dro, hybu nifer o fentrau ymyriad, yn cynnwys gweithdai newid gweithredol, rhaglenni newid meddylfryd gwaith, a datblygu Cymunedau Ymarfer Gwynedd gyfan ar gyfer Goruchwylwyr Gofal, a Fforwm Arweinwyr Gofal dan hunan-arweiniad ar gyfer arweinwyr, perchnogion a chyfarwyddwyr darparwyr gofal cartref a gomisiynwyd.

Sbardunau

roedd y prosiect Arddangos yn canolbwyntio ar gefnogi datblygiad gweithlu a newid meddylfryd i danategu llwyddiant y model newydd. Roedd sbardunau ar gyfer y model newydd yn cynnwys cyflog ar sail sifftiau i weithwyr gofal (yn hytrach na’r contractau dim oriau blaenorol neu daliad am ddim ond yr oriau gofal uniongyrchol a weithiwyd), newid i feddwl a gweithredu sy’n canolbwyntio ar y person gan weithwyr gofal (yn hytrach na gweithredu ar sail amser a thasg), gwell strwythur a phroses i’r Tîm Adnoddau Cymunedol, a symud tuag at rymuso gweithwyr gofal i gael mwy o hyblygrwydd i ddefnyddio eu hamser mewn ardal ddaearyddol lai. Caniatâ hyn ganolbwyntio ar lesiant, ailalluogi a hybu annibyniaeth drwy ymgysylltu â 360 gradd o fywyd y person sy’n derbyn gofal – yn cynnwys gweithio gyda theuluoedd, cymdogion, asedau cymunedol ac unrhyw asedau eraill sydd ar gael.

Ar hyd y flwyddyn, daeth meysydd ffocws allweddol ar gyfer y prosiect Arddangos i’r amlwg, fel y bwlch cefnogaeth i staff ar lefel goruchwylwyr gofal, anghenion hyfforddiant o amgylch ailalluogi, datblygu cymhwysedd ar gyfer y gweithlu Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth, cefnogaeth ar gyfer gwella Timau Adnoddau Cymunedol a datblygu arweinyddiaeth yn haenau rheoli gwasanaethau gofal cymdeithasol a gwasanaethau cymdeithasol. Nod y meysydd ffocws hyn oedd optimeiddio arbenigedd staff gofal a gweithwyr proffesiynol rheoledig, caniatáu rhyddhau adnoddau arweinyddiaeth weithredol, a galluogi gwell darpariaeth gwasanaeth a datblygiad sgiliau i’r gweithlu gofal cymdeithasol, a fydd ill dau yn gwella deilliannau i’r rhai sy’n derbyn gofal cartref.

Galluogrwydd

Gweledigaeth y fenter newid hon a sbardunwyd gan bartneriaeth rhwng Cyngor Gwynedd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr oedd darpariaeth gofal cartref â’i seiliau yn y gymuned; un sy’n dileu cystadleuaeth o’r broses drwy ddynodi un darparwr gofal fesul ardal ddaearyddol lai, ac felly’n anelu at feithrin ffordd o weithio sy’n fwy cydweithredol a seiliedig ar asedau. Daeth y prosiect Arddangos â mwy o alluogrwydd a chapasiti i’r system, a oedd dan bwysau sylweddol, ac adnoddau ariannol i gefnogi’r gwaith. Caniataodd yr adnoddau ychwanegol y lle a’r capasiti i dynnu gweithwyr gofal cymdeithasol proffesiynol ynghyd mewn ffyrdd na fyddent fel arfer yn cydweithio; ac agorodd y drws i ffyrdd newydd o rannu gwybodaeth, cyfuno adnoddau a chreu syniadau gweithredol. Er enghraifft, drwy gasglu arweinwyr/cyfarwyddwyr nifer o ddarparwyr gofal (statudol, preifat a gwirfoddol) ynghyd, crëwyd y cyfle i un darparwr wedi’i gomisiynu gynnig eu tanwariant cyllideb teithio staff i ddarparwr wedi’i gomisiynu arall a chanddo brinder cyllideb teithio. Dim ond mewn system heb gystadleuaeth allai’r math hwn o rannu adnoddau a meddwl cydweithredol ddod i’r amlwg, a chyda gofod wedi’i greu i feithrin ymddiriedaeth, datblygu teimlad o fod yn dîm, a chaniatáu deialog gonest.

Gallodd hyfforddwr prosiect Arddangos IMPACT gyflwyno cyfres o ymyriadau, dulliau gwella, tystiolaeth a dulliau hwyluso a oedd yn cefnogi cydweithio tuag at nodau a rennir, ac yn dargyfeirio o’r math o “siarad am broblemau” a all fod mewn perygl o godi yn ystod prosiectau trawsnewid. Cyflwynwyd staff ar amrywiol lefelau i gyfres o ddulliau a oedd yn helpu i gefnogi eu dealltwriaeth o ffyrdd y gallent fabwysiadu dulliau gwelliant i arddangos y newidiadau mewn darpariaeth weithredol. Roedd sgaffaldio gwell profiad yn y gweithlu drwy gefnogi ymarferwyr ac arweinwyr, a meithrin gweithio cydweithredol rhwng y comisiynwyr a rhanddeiliaid yn y sectorau statudol, gwirfoddol a phreifat, yn golygu bod prosiect Arddangos IMPACT yn ychwanegu werth at fabwysiadu’r model newydd a’r symudiad tuag at ei wreiddio. Mae heriau’n parhau ynghylch dyfodol gwreiddio’r gwaith gwella a gynhaliwyd yn ystod prosiect Arddangos Gwynedd, gan fod y Bartneriaeth wedi bwriadu i’r adnodd Arddangos IMPACT gynorthwyo â’r broses wreiddio cyn i’r angen i droi’r ffocws ddod i’r amlwg.

Diwylliant

Llwyddodd prosiect Arddangos Gwynedd i droi’r ffocws yn gyflym tuag at ofynion Datblygiad Sefydliadol y rhaglen newid oherwydd set sgiliau a phrofiad penodol hyfforddwr y prosiect Arddangos, sydd â blynyddoedd lawer o brofiad fel asiant newid strategol ymgynghorol mewn prosesau trawsnewid sefydliadol mawr, yn ogystal â chyfoeth o brofiad mewn mentora a hyfforddi datblygu arweinyddiaeth ar wahanol lefelau gweithredol. Hefyd, caniataodd diwylliant, natur agored a gweledigaeth y tîm trawsnewid Cefnogi Iechyd a Llesiant i ymddiriedaeth gael ei feithrin yn gyflym ac i arbenigedd gael ei rannu heb ofn na meddyliau caeedig.

Y risg barhaus i drawsnewidiad gofal cartref yw diffyg adnoddau ar gyfer gwreiddio’r newid, yn ogystal ag ansefydlogrwydd ariannol y sector a heriau difrifol yn yr amgylchedd allanol. Fodd bynnag, yr her fwyaf o hyd yw cyflawni a gwreiddio newid diwylliannol a gweithredol yng ngweithrediad beunyddiol y gwasanaethau hyn ac osgoi llithro’n ôl i fusnes fel arfer. Llwyddodd y prosiect i gynnal ei ffocws ar newid meddylfryd tuag at ofal sy’n canolbwyntio ar y person a chydweithio rhwng y rhai sy’n darparu gofal.

Byddai ariannu ar gyfer gwreiddio pellach ar lefel uwch arweinyddiaeth yn ychwanegu at sbarduno a sefydlogrwydd y gwaith trawsnewid a newid diwylliant y mae mawr angen amdano, gan alluogi gwreiddio’r ffordd newydd o weithio go iawn o fewn diwylliant a realiti gweithredol darparu yn y gymuned.

Fe wnaeth rôl yr hyfforddwr prosiect Arddangos alluogi ymdrech ac adnodd ychwanegol i gadw’r ffocws ar y broses hon o fewn yr uwch arweinyddiaeth ar draws sefydliadau, a chaniatáu’r i’r rhai sy’n gweithio ar y rheng flaen deimlo eu bod yn cael eu cefnogi a’u gwrando arnynt go iawn. Bydd y mentrau a’r prosesau dolen adborth a roddwyd ar waith gan y prosiect Arddangos yn gadael etifeddiaeth ymarferol dros y 12 mis nesaf, a dylai hyn helpu gyda’r gwaith gwreiddio; yn enwedig: bydd y sesiynau Cymunedau Ymarfer rheolaidd gydag adnoddau llawn ym mhob un o’r rhanbarthau gweithredol yn arbennig ar gyfer y rhai ar lefel goruchwylwyr gofal, a fydd yn arwain at Ddigwyddiad Dysgu ar y Cyd ymhen 12 mis ar gyfer holl oruchwylwyr gofal cartref ledled Gwynedd, yn cefnogi dysgu ar y cyd ac yn gwella cefnogaeth i’r garfan hon sydd dan bwysau trwm. Yr her i Wynedd nawr yw canfod ffyrdd o sicrhau bod manteision y gwaith hwn yn parhau ac yn cael eu gwireddu mewn deilliannau cadarnhaol i’r rhai sy’n derbyn gofal, a’r rhai sy’n gweithio gyda nhw o ddydd i ddydd.